Hafan

Croeso i fy ngwefan! Daearyddwr, bardd a nofelydd ydw i. Rwy’n uwch-ddarlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, ac yn dysgu ac ymchwilio ym maes llifogydd a geomorffoleg - y wyddor sy’n astudio tirffurfiau’r ddaear a’r prosesau sy’n eu ffurfio - yn ogystal â daearyddiaeth hanesyddol a diwylliannol afonydd a dŵr.Rwyf hefyd yn frwd iawn dros gydweithio rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau a datblygu dulliau newydd o gyfathrebu gwyddoniaeth.

Rwy’n barddoni am bynciau amrywiol - tirwedd a phobl Cymru a’r byd, teulu, gwleidyddiaeth a’r iaith Gymraeg - ac mewn mesurau amrywiol caeth a rhydd. Rwy’n cyfansoddi cerddi at achlysuron arbennig ac ar gyfer dibenion teulu, ffrindiau a’r gymdeithas ac yn cystadlu fel rhan o dîm Talwrn y Beirdd y Glêr gyda Eurig Salisbury ac Osian Rhys a thîm Ymryson y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol y Deheubarth gydag Aneirin Karadog, Rhys Iorwerth ac Iwan Rhys. Rwy wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o farddoniaeth a nofelau. Daeth fy nghyfrol gyntaf, Banerog, i restr fer Llyfr y Flwyddyn ac enillodd Llif Coch Awst wobr y Categori Barddoniaeth. Enillodd Dirgelwch y Bont, nofel i blant, Wobr Tír na nÓg. Enillais Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008 a’r Gadair yn 2015.