Cerddi
Arfogi
Te diogel wrth benelin,
tap i’r app, a sgrôlio’r sgrîn
yn bored...
… hyd nes canfod cae
sy’n un haid o hashnodau
gwaedlyd y gad, o lid gwâr;
troediaf Bwll Melyn Trydar.
A’r we yn Bont Orewyn,
yn y feed mae gwayw-ffyn,
rhennir o frwydr yr heniaith
rat-at yr @ dros yr iaith,
maes y gad ydi’r memes gwell,
lleddir gydag allweddell.
Yna caf gan lu cyfoes
darian o likes drwy ein loes,
pwytho, er mwyn cario’r cae,
â nodwydd ein hashnodau,
troi can bawd yn gatrawd gall ...
Te oer. Mi wna’i bot arall.
Mae fel petai rhyw ymosodiad newydd ar Gymru a’r Gymraeg yn digwydd bob dydd, o benderfyniadau gwleidyddol (ailenwi Pont Hafren, gwrthod cyllido morlyn Abertawe) i sylwadau hiliol. Bob tro, mae byddin o bobl ar Twitter yn rhuthro i’r adwy ac mae’n teimlo fel ein bod yn ennill un brwydr, dim ond i orfod ail-arfogi’r diwrnod canlynol, Efallai, fel nododd Tony Benn unwaith (mewn cyd-destun arall!) nad oes buddugoliaeth derfynol! Darlledwyd yr englyn gyntaf ar raglen radio Talwrn y Beirdd.
Plastig
Gwelwn, os cloddiwn i’r clai – dan foryd
ein hyfory difai,
y boddwyd, man lle byddai,
heulwen traeth dan ôl ein trai.

Mae llygredd plastig mewn moroedd ac afonydd yn un o faterion amgylcheddol mwyaf ein cenhedlaeth. Mae llawer yn son am lygredd plastig fel un o ddangosyddion cyfnod daearegol newydd yr Anthroposen - pan ddaw daearegwyr y dyfodol i edrych yn y cofnod daearegol, pa olion fydd o’n cyfnod ni tybed? Darlledwyd yr englyn gyntaf ar raglen radio Talwrn y Beirdd.
Cadoediad
Cilgant marmor yw ’fory yn heulwen
Dulyn, lle mae’r deildy
eglwysig eto’n glasu.
Canmlwyddiant yn gilgant i gyd, yn lân
dan oleuni hefyd,
enwau bach yng ngŵydd y byd.
Dihirod yn cydorwedd ag arwyr
ar garreg gyfannedd,
heulwen byw ar filiwn bedd.
Ond mor wyrdd, mor wyrdd yw’r harddwch – gwyrddach
na gardd yn ei heddwch,
rhesi ar resi’n ddryswch,
yn gur, yn feini gerwin ar ei hyd,
er i’r haul mawr feithrin
ffydd anufudd Glasnevin.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dreulio wythnos yn Nulyn bob Pasg (bron!) ers dechrau darlithio gan arwain taith maes i’r ddinas ac i fynyddoedd Wiclo. Eleni, am y tro cyntaf, aethon ni i fynwent Glasnevin, lle claddwyd arwyr Gwrthryfel y Pasg ynghyd â phobl flaenllaw eraill yn hanes y genedl. Codwyd cofgolofn newydd ar siap cilgant i nodi canmlwyddiant y gwrthryfel yn 2017, gan nodi enwau pawb a fu farw, yn wrthryfelwyr, yn filwyr Prydeinig a phobl nad oedd yn ymladd o gwbl. Roedd yn benderfyniad dadleuol a ddangosodd rhai tensiynau sydd yn bodoli yn Iwerddon heddiw. Darlledwyd yr englynion gyntaf ar raglen radio Talwrn y Beirdd.
